|
Ein prif nod a’n braint yw addoli’r Duw a’n gwnaeth, a chyhoeddi mai Iesu yw Gwaredwr a gobaith y byd
Wedi ei adeiladu ar safle mynachlog Dewi Sant yn y chweched ganrif, mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi bod yn gyrchfan pererindodau ac addoliad ers sawl canrif, ac mae hi’n parhau i fod yn eglwys sy’n gwasanaethu cymuned fyw. Cynrychiolir y gymuned hon nid yn unig gan bobl plwyf Tyddewi, ond gan bawb sy’n canfod tawelwch yn y man gweddi a defosiwn hwn.
| |