Medieval Wall Paintings of St Davids Cathedral

Thursday, 16 June, 2022 - 14:00

Start time is 2pm to 4pm

Free entry but must book in advance

 

 

To order your free ticket click here https://ti.to/digital-past/murluniau-canoloesol-eglwys-gadeiriol-tyddewi

Murluniau Canoloesol Eglwys Gadeiriol Tyddewi: Digwyddiad Cerdded a Chlonc yn yr Eglwys Gadeiriol

gyda Richard Suggett, awdur Temlau Peintiedig


Ymunwch â’r digwyddiad arbennig hwn sy’n cynnig cyfle i edrych ar furluniau canoloesol, nad ydynt i’w gweld yn aml, yn un o adeiladau eglwysig mwyaf trawiadol Cymru. Byddwn yn cael ein tywys gan hanesydd pensaernïol y Comisiwn Brenhinol, Richard Suggett, awdur Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800/Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2pm yng nghorff yr Eglwys Gadeiriol. Bydd Richard Suggett yn ein harwain drwy fwa’r sgrin sydd wedi’i phaentio ac i mewn i’r gangell i weld y peintiadau sydd ar Orsedd yr Esgob a nodweddion eraill. Byddwn yn gorffen ein taith yn ffreutur yr Eglwys Gadeiriol er mwyn gweld y Croesau Cysegru canoloesol prin. Rydym yn ddiolchgar iawn i Richard Suggett am gytuno i lofnodi copïau o’i lyfr ar ddiwedd y digwyddiad yn ffreutur yr Eglwys Gadeiriol.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Mae croeso hefyd i’r sawl a fydd yn bresennol ddod i’r Hwyrol Weddi Gorawl a genir gan gôr yr Eglwys Gadeiriol am 6pm.

Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly cofiwch gadw eich lle yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

Mae hwn yn ddigwyddiad a gynhelir ar y cyd gan y Comisiwn Brenhinol ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond byddem yn croesawu rhoddion tuag at gynnal a chadw llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol.

16 Mehefin, 2022, 2pm

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Archebwch un tocyn yr un os gwelwch yn dda.

To order your free ticket click here https://ti.to/digital-past/murluniau-canoloesol-eglwys-gadeiriol-tyddewi