Creirfa Dewi

Dewi Sant

 Ganed Dewi yn y flwyddyn 500 OC yn fab I Santes Non .Un o dywysogion Ceredigion oedd ei dad. Yn ol y chwedl esgorodd Non arno  ar ben clogwyn yn ystod drycin ofnadwy. Saif y Gadeirlan mewn llecyn lle sefydlodd Dewi fynachlog mewn man diarffordd a digroeso o’r enw Glyn Rhosyn. Buchedd syml oedd gan Ddewi a’i ddisgyblion.Ymataliasant rhag  bwyta cig  gan  beidio ag yfed  cwrw hefyd .Symbol y sant yw’r genhinen Bedr sydd yn arwydd o genedligrwydd cymreig  hyd heddiw.

Yn ol y chwedl cysegrwyd Dewi yn esgob ac ymroes I  bererindota gan deithio I Jerwsalem a dod a charreg yn ol sydd i’w gweld yma o hyd  ar ben yr allor yn ale groes ddeheuol  yr eglwys hon.

 Yn ol yr hanes digwyddodd  gwyrth enwocaf Dewi tra oedd yn pregethu I dorf fawr yn ystod synod Llanddewi Brefi. Cwynodd rhai oedd ar gyrion  y dorf nad oedd modd iddynt ei glywed. Honnir fod y tir dan ei draed wedi codi fel bod pawb yn medru  ei weld yn glir a bod colomen wen wedi disgyn ar ei ysgwydd hefyd - arwydd o ras a bendith Duw arno.

BU farw Dewi yn y flwyddyn 589 OC a dywedir fod y mynachlog wedi ei llenwi ag angylion wrth I Iesu dderbyn enaid y sant. Ei eiriau olaf i’w ddisgyblion oedd rhain;

“Byddwch lawen, cadwch eich ffydd a’ch cred a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf”.  

Portrait of St David | Dewi Sant

Creirfa Dewi Sant

Yn y ddeuddegfed ganrif cyhoeddodd y Pab Calixtus II fod Tyddewi yn fan pererindota a thua’r un amser adeiladwyd y greirfa ganoloesol yn y seintwar wrth ymyl y brif allor. Yr oedd tri phererindod I Dyddewi yn gydradd  ag un I Rufain yn ol datganiad y Pab a thri phererindod yma yn gydradd ag un i Jerwsalem hefyd. Ers  hynny y mae cannoedd o filoedd o bererinion wedi troedio ar hyd y ffordd I Dyddewi ond ar ol i’r greirfa gael ei distrywio adeg y Diwygiad bu gostyngiad sylweddol yn nifer y pererinion. Eto hyd yn oed yn yr amserau cythryblus hynny o ran crefydd a gwleidydiaeth parhaodd rhai I  ymweld a‘r lle cysegredig hwn.

 

St Davids shrine in the 19th century. After Charles Norris (1779-1858). Image: Royal Collection Trust.
St Davids shrine in the 19th century. After Charles Norris (1779-1858). Image: Royal Collection Trust, RCIN 702602.

Llun o  Greirfa Dewi Sant yn ol Charles Norris (1779-1835) .  Ymddiriedolaeth y Casgliad brenhinol

Atgyweirio’r greirfa

St Davids Shrine after restoration. Image: Tony Hisgett, CC BY 2.0.
St Davids Shrine after restoration. Image: Tony Hisgett, CC BY 2.0.

 

Dadorchuddiwyd ac ailgysegrwyd y greirfa ar ei gwedd bresennol gan y Gwir Barchedig J. Wyn Evans, esgob Tyddewi,  yn ystod gwasanaeth y Cymun Bendigaid ar gan ar wyl Ddewi  2012 .

Yn ei bregeth dywedodd y Deon, y Tra Pharchedig Jonathan Lean, “Y  mae’r greirfa hon yn dangos parch I Ddewi ac yn anrhydeddu ei fuchedd sanctaidd.

Cofiwn ninnau ei eiriau olaf i’w ddisgyblion a gweddiwn fel  y bydd y diwrnod hwn yn fodd I  droi ymwelwyr yn bererinion 

Creirfa Dewi Sant wedi ei hatgyweirion. Llun: Tony Hisgett

 Yr eiconau

Paentio a goreuro y pum eicon a wnaeth Sarah Crisp.

Dodwyd yr eiconau yn y lleoedd gweigion hynny oedd yma cyn I’r greirfa gael ei hadfer. Mae’r eiconau  yn dangos Dewi a rhai seintiau eraill a gysylltir a’r Gadeirlan a’r ardal hon.

Lluniwyd yr eiconau a thempera wy ar gesso. Mae’r eiconau ar y tu blaen yn darlunio Sant Padrig ar y chwith, Dewi Sant yn y canol  a Sant Andreas ar y dde.

Tu cefn i’r greirfa gwelir dau eicon arall, un yn dangos mam Dewi, Santes Non, a’r llall yn portreadu un o gyfoeswyr Dewi, sef Iwstinian.

Wedi paentio ar baneli o leimwydden y mae’r eiconau a maent yn gyfuniad o arddull traddoddiadol Bysantiwm gyda dylanwad gweithiau cynnar Eidalaidd arnynt hefyd.

Deunydd a dulliau traddoddiadol  sy’n nodweddu’r cwbl.

Y gortho neu ganopi

Ymdrech I atgynhyrchu adeiladwaith o’r drydedd ganrif ar ddeg yw’r canopi derw uwchben y greirfa hon. Cynhyrchodd  Friend Wood y gortho yn ol cynllun Peter Bird Mae’r ser aur sy’n addurno’r gwaith yn cynrychioli y nefoedd a’r rhosynnau gwynion yn arwydd o’r Efengyl sy’n dal ynghyd nef a daea fel y mae’r  rhosynnau hyn  yn cysylltu asennau’r canop a’i gilydd.

Ar y canopi y mae un ar ddeg o gerfiadau pren. Maent yn cyfeirio at wahanol agweddau ar fywydau y seintiau a bortreadir oddi tanynt.. Mae’r gragen fylchog neu gragen pererin yn arwydd hynafol o fedydd a phererindod a hyd heddiw bydd pererinion yn mynd a hi  ar eu taith  I ganolfannau crefyddol megis Tyddewi. Mae’r cerfiad canolog yn dangos cragen o’r fath.

Y Cilfachau     

Gynt byddai pererinion yn penlinio  wrth waelod y greirfa a dyna bwrpas y cilfachau. Bellach maent yn dal dwy gist a thybir iddynt  gynnwys gweddillion Dewi a Iwstinian.Hefyd gwelir clochen geltaidd, sef y bangu.

 

Lamp y cysegr.

Gwaith y gof arian Francis Northall yw’r lamp. Mae’n dangos colomen wen  a seren- y ddau yn cyfateb i’r manylion hyn a welir ar eicon Dewi ac ar y canopi. Dwyn dilysnod arbennig y mae’r lamp sydd yn  gofarwydd am jiwbili ddeimwnt  y Frenhines Elizabeth II.