Addysg

Mewn amryw ffyrdd y mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn cynnig adnoddau addysgiadol.

Yn eu plith y mae Ty Pererin, canolfan addysg ar gyfer pererinion, a agorwyd yn swyddogol ar Fawrth 4, 2013.

Ar hyd y flwyddyn darperir teithiau ar gyfer y sawl sydd yn ymweld a’r safle am y tro cyntaf  yn ogystal ar gyfer y sawl sydd yn gyfarwydd a’r Gadeirlan ond eto yn awyddus I ddysgu mwy am ryw agwedd benodol amdani.

Safle addas yw hon hefyd i’r unigolion hynny a fyn gynnal arddangosfeydd celf a chrefft neu i’r sefydliadau megis Cymorth Cristnogol neu Amnest Cydwladol y mae nod ganddynt ddyfnhau ymwybyddiaeth o’u gwaith a’u hamcanion.

Ers canrifoedd  bellach  y mae’r Eglwys Gadeiriol wedi pwysleisio rol cerddoriaeth yn ei bywyd beunyddiol ac yn hyfforddi llawer yn y pwnc hwn hyd heddiw.

At hynny dylid nodi fod y llyfrgell yn darparu adnoddau gwerthfawr I ymchwilwyr o bob math ac yn eu plith y rhai sydd yn canolbwyntio ar Ddewi Sant a’r ddinas neu ar ryw agwedd arall ar hanes a bywyd y Gadeirlan.Mae  modd felly ymchwilio I ystod eang o faterion yma.

Am ragor o wybodaeth cysyllter a education@stdaviscathedral.org.uk