Teithiau

Mae gennym griw o wirfoddolwyr hyfforddedig, sy’n hapus i dywys ymwelwyr a phererinion o gwmpas yr Eglwys Gadeiriol.

Teithiau Grŵp

Rydym yn croesawu grwpiau o bob oedran i’r Eglwys Gadeiriol.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i hwyluso pererindodau.
Gadewch i ni wybod am unrhyw ddiddordeb neu anghenion arbennig.
Mae Teithiau yn Gymraeg yn bosib pan fydd tywysydd ar gael.
Croesewir grwpiau sydd â diddordeb arbennig.

Gall partïon taith ddarparu eu tywysydd eu hunain drwy drefniant ac wedi ymgynghori. Dylai cwmnïau teithio nodi nad yw archeb am daith yn bodoli nes eu bod wedi derbyn nodyn cadarnhad gennym ni.

Darllenwch y canllaw isod ynghylch rhoddion os gwelwch yn dda .

Croesewir Ymweliadau gan Ysgolion yn arbennig.
Gellir trefnu teithiau i gefnogi meysydd penodol yn y Cwricwlwm e.e. Addysg Grefyddol (Bywyd Dewi Sant, Pererindota, Arwyddion a Symbolau, Mannau Addoli, yr Eglwys a Chymuned), Hanes (Teyrnasoedd Canoloesol, y Tuduriaid) ac eraill. Gofynnwch i ni deilwra’r ymweliad i ateb gofynion eich ysgol

Ni chodir tâl am ymweliadau gan ysgolion, ond croesewir rhoddion.

Cyswllt:  Cysylltwch â Swyddfa'r Eglwys Gadeiriol am gymorth ychwanegol os gwelwch yn dda, neu defnyddiwch y ffurflen ym holiadau.  Gallwch hefyd e-bostio isode info@stdavidscathedral.org.uk

Yn ystod mis Awst byddwn yn ceisio darparu teithiau rheolaidd ddyddiau Llun am 11 y bore, ddyddiau Gwener am 2.30 y prynhawn a ddyddiau eraill yn ôl y gofyn ac argaeledd tywysydd. Gweler yr hybysiadau ym Mhorth y De ac ar y Daflen Sedd Wythnosol.

Mae angen ychydig o rybudd arnom i drefnu taith, ond os oes diddordeb gennych yna gwnewch ym holiadau, os gwelwch yn dda.

Ni chodir tâl, ond rydym yn croesawu rhoddion sy’n gymorth i gwrdd â chostau cynyddol cynnal y Lle Sanctaidd hwn.

Mae angen £4 oddi wrth pob oedolyn sy'n ymweld dim ond er mwyn cadw’n pennau uwchlaw’r dŵr.

Gwirfoffolwyr yw’n tywyswyr i gyd. Os ydych yn drethdalwr yn y DU gallwch gynyddu gwerth eich rhodd drwy ddefnyddio’r amlenni rhodd gymorth. Gofynnwch i’ch tywysydd am un.