Llyfrgell

Llyfrgell y Gadeirlan

 Image of the Library

Crair Canoloesol o Dyddewi i’w arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Haf 2021

Rhoddir benthyg un o’i baglau esgobion o’r 12fed Ganrif gan Eglwys Gadeiriol Tyddewi I’r Amgueddfa Brydeinig fel rhan o arddangosfa bwysig yr haf ‘Thomas Becket: llofruddiaeth a sancteiddrwydd’. Cynhelir yr arddangosfa yn Llundain o ganol Mai 2021 tan 22 Awst 2021.

Bu’r fagl esgob yn un o sawl eitem canoloesol a ddatgelwyd yn 1865 yn ystod Gwaith atgyweirio gan y pensaer George Gilbert Scott i gryfhau tŵr bregus y Gadeirlan. Daethpwyd o hyd i faglau esgobion, yn ogystal â modrwyau a chwpanau cymun ym meddau Richard de Carew (Esgob Tyddewi 1256-1280) a Thomas Beck (Esgob Tyddewi 1280-1293).

Thomas Becket: llofruddiaeth a sancteiddrwydd yw’r arddangosfa gyntaf o bwys yn y DU am fywyd, marwolaeth ac etifeddiaeth Thomas Becket. Ysgytwodd y canol oesoedd gan ei lofruddiaeth greulon yng Nghadeirlan Caergaint yn 1170. Darlunir 500 mlynedd o hanes, o esgyniad rhyfeddol Thomas Becket o ddechreuad di-nod i fod yn un o’r ffigyrau amlycaf yn Lloegr y Normaniaid, i’w etifeddiaeth barhaol yn ystod y canrifoedd ar ôl ei farwolaeth. Defnyddir casgliad o 100 o eitemau arbennig yn cynnwys benthyciadau gwerthfawr o fannau gwahanol yn y DU ac Ewrop. Dengys y fagl esgob o Dyddewi o’r 12fed ganrif esiampl o grefftwaith eglwysig a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod Becket ei hun.

Archesgob Caergaint rhwng 1162 a 29 Rhagfyr 1170, llofruddiwyd Becket gan filwyr Harri’r Ail yng nghanol gwasanaeth y Gosber yng Nghadeirlan Caergaint. Ffraeodd Becket â Harri ynglŷn â rheolaeth y brenin dros yr eglwys. Bu Harri’r Ail yn gyfrifol am rwystro penodiad Gerallt Gymro fel Esgob Tyddewi. Yn ei le, penodwyd y mynach Normanaidd Peter de Leia, a fu’n gyfrifol am ail-adeiladu’r Eglwys Gadeiriol yn 1181, gan y brenin. Brwydrodd Harri (heb fawr o lwyddiant) yn erbyn yr Arglwydd Rhys, rheolwr Deheubarth a de Cymru. Claddwyd Gerallt Gymro a’r Arglwydd Rhys yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Gwnaethpwyd pererindod i greirfa Dewi Sant yn Nhyddewi ar 29 Medi 1171, llai na flwyddyn ar ôl llofruddiaeth Thomas Becket. Croniclir yr ymweliad yn Brut y Tywysogion. Cofnodir 850 mlynedd oddi ar y digwyddiad hwn yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym Medi 2021. Daeth Tyddewi yn gyrchfan pererinion ar ôl datganodd y Pab Calixtus II yn 1123 mai dwy bererindod i Dyddewi oedd yn cyfateb ag un i Rufain. Cofnododd Gerallt ail ymweliad y Brenin i Dyddewi y flwyddyn ganlynol ar 1 Ebrill 1172. Mae gan yr Eglwys Gadeiriol gapel wedi’i gysegru i Sant Thomas Becket, sydd o bosibl ar safle ymweliad y Brenin i’r adeilad hŷn.

Roedd y 12fed ganrif yn gyfnod pwysig yn hanes Cymru, gyda’r newid o reolaeth gan dywysogion brodorol y Cymry i’r frenhiniaeth Normanaidd a Seisnig. Mae’n bleser gennym i rannu hanes ein Heglwys Gadeiriol yn y cyfnod canoloesol, wrth roi benthyg un o’n trysorau i’r Amgueddfa Brydeinig am rai misoedd. Mae’n fraint i gyfrannu at yr arddangosfa neilltuol hon am fywyd, llofruddiaeth a dylanwad parhaol Sant Thomas Becket.

Daw’r fagl esgob yn ôl i Dyddewi ar ddiwedd yr arddangosfa. Ar ôl hynny mi fydd i’w gweld yn gyhoeddus yn Nhrysorfa’r Eglwys Gadeiriol. Gwelir gwefan y Gadeirlan www.StDavidsCathedral.org.uk am wybodaeth i ymwelwyr I’r Eglwys Gadeiriol dan gyfyngiadau diogelwch COVID-19.

 

HANES 

Roedd efengylau a llyfrau goliwiedig eraill yn y llyfrgell.

Ysgrifennodd Rhygyfarch, mab yr Esgob Sulien, hanes bywyd Dewi Sant tua 1180.

Dinistriwyd llawysgrifau adeg y Diwygiad (16eg ganrif) a'r Rhyfel Cartref (17eg ganrif).

Dinistriwyd cofnodion diweddarach gan lifogydd.

HEDDIW

Ceir casgliadau yn y Llyfrgell a oeddent yn eiddo i ddeoniaid, esgobion, a chlerigwyr. Maent yn dyddio yn ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg.

Parheir i ychwanegu llyfrau a deunyddiau eraill at gasgliad y Llyfrgell. Maent yn ymwneud yn bennaf â Dewi Sant, Tyddewi, Cymru a hanes yr Eglwys yng Nghymru.

Ceir hefyd casgliad o ffotograffau lleol a rhai yn gysylltiedig â'r Eglwys Gadeiriol yn dyddio yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ynghyd â Chofrestri Plwyf.

 

YSTAFELL 

Hwn yw'r cabidyldy o'r 14eg ganrif a godwyd gan yr Esgob Gower.

Arferai clerigwyr yr eglwys gadeiriol gyfarfod yma.

Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif defnyddiwyd y lle fel ysgol ramadeg. Ceir lle tân arbennig gyda lle i ddal lampau, seddi yn y ffenest a piscina i olchi dwylo.

Roedd 'na dŷ bach canol oesol yn arfer bod mewn un cornel o'r ystafell

Bwrdd Ymchwilio'r Llyfrgell

PETHAU DIDDOROL 

Print o William Laud, Archesgob Caergaint, ac ar un adeg yn Esgob Tyddewi. Fe'i dienyddiwyd yn 1645 oherwydd ei gydymdeimlad â syniadau Catholig.

Map John Speed o Gymru 1610. Cwpan pren (i'r dde o'r silff ben tân).

Cerfiad pren gwalch y penwaig, Gwobr Gymunedol y Parc Cenedlaethol am lwyddo i atal sefydlu “Radar tros y gorwel” a fwriadwyd ar gyfer maes awyr Tyddewi yn 1991.

Y piscina