Y Trysorlys

Agorodd Trysordy’r Eglwys Gadeiriol yng Ngwanwyn 2006 er mwyn bod yn gartref diogel i drysorau sy’n adrodd hanes addoli ac ysgolheictod Cristnogol yn Nhyddewi a ddechreuodd 1,500 mlynedd yn ôl ac sy’n para hyd heddiw.

Trysorau’r Esgobion

Display cabinets in the Treasury

Cafodd amrywiaeth o eitemau, sy’n adlewyrchu grym a statws Esgobion Tyddewi, eu canfod ym meddau pedwar o’r Esgobion cynnar yn yr Eglwys Gadeiriol. Mae’r rhain yn cynnwys modrwyon sydd i’w gweld erbyn hyn yn y Trysordy - modrwyon wedi’u haddurno ag amethystau a oedd yn perthyn i’r Esgob Beck a’r Esgob Carew a modrwy aur blaen ac arni bum rhic, o bosibl i atgoffa’r sawl oedd yn ei gwisgo am bum clwyf Crist. Roedd Careglau (Cwpanau Cymun) arian sy’n cael eu harddangos hefyd wedi’u claddu gyda’r Esgob Beck a’r Esgob Carew. Mae’r rhain yn dyddio nôl i’r 13eg ganrif

Efallai mai baglau swyddogol yr Esgobion yw’r mwyaf arbennig ymhlith y trysorau yn yr arddangosfa.  Maen nhw wedi’u gwneud o gopr wedi’i euro ac fe fydden nhw’n cael eu cario gan yr esgobion mewn gwasanaethau 800 mlynedd yn ôl.  Mae un fagl, a gafwyd ym medd yr Esgob Gower, yn llawer mwy plaen na’r lleill. Mae hon wedi’i gwneud o latwm, sef aloi o gopr, sinc, plwm a thun, ac fe gafodd ei gwneud yn unswydd i’w chladdu gyda’r esgob.  Daethpwyd o hyd i ddarnau o arian canoloesol ym medd yr Esgob Beck.  Mae’r rhain yn dyddio o deyrnasiad y Brenin Edward III (1327-1377).

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys cop, oedd yn cael ei gwisgo gan yr Esgob Jenkinson, Esgob Tyddewi a fu’n bresennol yn Seremoni Goroni’r Frenhines Victoria ym 1838, ac a gymerodd ran ynddi drwy ddarllen y litani.

Trysorau Addoli

Drwy lawer o gyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, roedd trysorau eglwysi Cymru a Lloegr yn cael eu dinistrio wrth i’r ddwy wlad bendilio rhwng etifeddiaeth Gatholig ganoloesol yr eglwys a Phrotestaniaeth Ddiwygiedig gyfoes. Ar ôl i Charles II gael ei adfer i’r orsedd, bu’n rhaid i eitemau newydd gael eu gwneud i’w defnyddio mewn gwasanaethau.

Mae’r eitemau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys: caregl arian fach a wnaed ym 1618 ar gynllun syml a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod Elizabeth, plât arian ar gyfer set gymun a wnaed ym 1678 - ar ymyl y plât hwn gwelir yr arysgrif Ecclesis Cathedralis Menevensis 

Eglwys Gadeiriol Mynyw (Tyddewi), careglau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi’u haddurno ag amethystau a garnedau ac Arian Cablyd.  Rhoddwyd y darnau arian hyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II i rai o ddinasyddion Tyddewi ar ddydd Iau Cablyd ym 1982.  Yn draddodiadol, byddai brenin neu frenhines Prydain yn golchi traed y tlodion ar y dydd Iau hwn cyn y Pasg, ond dechreuwyd rhoi arian yn hytrach na golchi traed yn ystod teyrnasiad James II (1685-1689).

Mae trysorau addoli’r Eglwys Gadeiriol yn cynnwys llawer mwy nag eitemau drudfawr.  Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gorchuddion blaen yr allor, sy’n cael eu defnyddio i addurno’r allor wrth addoli.  (Mae’r rhain wedi’u gwneud fel arfer o sidan neu felfed gyda brodwaith cain, sydd yn aml yn defnyddio edau aur neu arian) Mae yna hefyd hesorau, sef clustogau trwm sy’n cael eu gosod yn y seddi er mwyn i’r addolwyr benlinio i weddïo.  Cafodd y rhan fwyaf o’r hesorau eu brodio i’w defnyddio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi gan Urdd Brodwaith yr Eglwys Gadeiriol. Mae pob rhan o Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn cynnwys enghreifftiau gwych o gerfio coed - edrychwch yn ofalus ac fe welwch chi wynebau, angylion, ffrwythau ac anifeiliaid ymhlith y cerfiadau cain.  Yn y Trysordy gallwch weld darnau o dderw cerfiedig gan gynnwys pen angel oddi ar gas organ a osodwyd ym 1705.  Mae’r crefftwaith yn gyfraniad aruthrol at harddwch yr Eglwys Gadeiriol ac mae’n cynnwys nenfydau a seddi o’r 16eg ganrif a cherfiadau ar yr organ.  Mae’r adeilad ei hun yn deyrnged ogoneddus i Dduw. Mae Tyddewi yn gartref i bensaernïaeth a chrefftwaith rhagorol, a gallwch weld enghreifftiau o’ch cwmpas ym mhobman heddiw.

Trysorau Ysgolheictod

Mae gan Dyddewi draddodiad o ysgolheictod a all gael ei olrhain yn ôl i’r dechrau yn deg.  Pan oedd ar y Brenin Alfred angen cymorth i ailadeiladu bywyd deallusol Wessex ar ôl iddi gael ei dinistrio gan y Llychlynwyr, galwodd ar Aser, Esgob Tyddewi, i’w helpu.  Mae’r enw da hwn mewn ysgolheictod yn parhau hyd heddiw, ac mae wedi’i ymgorffori yn llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol.

Mae gwreiddiau’r Llyfrgell yn gorwedd ym mynachlog Dewi Sant, a oedd yn sefyll yma cyn i’r Eglwys Gadeiriol gael ei chodi.  Roedd gan y fynachlog sgriptoriwm lle byddai mynachod yn ysgrifennu ac yn darlunio llawysgrifau a dogfennau. Er i lawer o’r casgliad gael ei ddinistrio ym mlynyddoedd helbulus yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, mae’r Llyfrgell yn cynnwys trysorau gwirioneddol hynod.  Mae rhai o’r rhain i’w gweld yn y Trysordy a gallwch weld llawer mwy drwy ymweld â’r Llyfrgell lle mae’r llyfr hynaf yn dyddio yn ôl i 1505.  Mae casgliad y Llyfrgell yn ymdrin ag amrywiaeth mawr o bynciau gan gynnwys diwinyddiaeth, astudiaethau’r Beibl, amaethyddiaeth, daearyddiaeth, llysieulyfrau, hanes, mathemateg, gwyddoniaeth a Chymru.  Mae trysorau’r Llyfrgell yn cynnwys dalen o lawysgrif o’r 12fed ganrif am lyfr Exodus, argraffiad 1620 o’r Beibl Cymraeg ac argraffiad cyntaf o fap John Speed o Gymru, 1610. Dyma’r map darluniadol manwl cyntaf sydd ar gael o strydoedd prif drefi Cymru.

A crook in a display cabinet A tankard in a display cabinet A book on display