Cerddoriaeth

Y Corau

Côr Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ceir y cyfeiriad cynharaf at gantorion yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1132, yn ystod teyrnasiad Richard II.  Ganed Thomas Tomkins yn Nhyddewi yn 1572 a daeth yn aelod o gôr yr Eglwys Gadeiriol pan oedd ei dad yn Organydd ac yn Gôr-feistr.

Cathedral Choir

Mae Côr yr Eglwys Gadeiriol ar ei ffurf bresennol yn unigryw yn y D.U. gan fod adran y prif gantorion yn cynnwys dim ond merched rhwng 8 a 18 oed. Mae clercod lleyg y côr yn gweithio’n lleol mewn nifer o alwedigaethau amrywiol.  Mae’r côr yn canu mewn pedwar gwasanaeth bob wythnos, ac maen nhw wedi recordio sawl CD, gydag un ohonyn nhw wedi gwerthu dros filiwn o gopïau yn U.D.A., ac wedi cael ei ddarlledu sawl gwaith ar orsafoedd radio a theledu’r BBC.  Yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae’r côr wedi teithio’n helaeth o amgylch Ewrop, Awstralia ac U.D.A. (deirgwaith).  Mae’r côr yn chwarae rhan bwysig yng Ngŵyl yr Eglwys Gadeiriol, ac y mae wedi perfformio gyda Florilegium a Charivari Agreable, gan berfformio rhai o weithiau cerddorol Malcom Archer, Alun Hoddinott, Francis Jackson a Howard Goodall am y tro cyntaf.

Dyfernir Ysgoloriaethau Corawl o Fedi 2008 ymlaen (gweler isod).

Yn ogystal â Chôr yr Eglwys Gadeiriol ceir Côr Bechgyn ar wahân. Y bechgyn sy'n canu'r Gosber ar ddydd Mawrth a dydd Gwener (gyda'r clerigwyr lleyg bob pythefnos).

Boys choir

Mae'r Côr Iau yn agored i fechgyn a merched ym Mlynddoedd 3-6 ac ar hyn o bryd mae'n cynnwys 25 o gantorion o ysgolion cynradd yn Nhyddewi, Croes-goch a Solfach. Bydd y côr yn ymarfer am 3.45pm bob dydd Gwener ac yn canu mewn dau wasanaeth yn yr eglwys gadeiriol bob tymor. Bydd llawer o aelodau'r côr hwn yn mynd ymlaen i ganu yng Nghôr yr Eglwys Gadeiriol neu'r Côr Bechgyn.

Caiff aelodau'r tri chôr hyfforddiant gerddorol ragorol. Mae 'na fanteision eraill hefyd ar gyfer Côr yr Eglwys Gadeiriol a'r Côr Bechgyn: cânt hwy eu talu ac mae'r merched yn derbyn nifer o wersi canu bob blwyddyn gan ganwr proffesiynol gyda nawdd ariannol oddi wrth y Deon a'r Cabidwl.

Os oes diddordeb gan fab neu ferch mewn dod yn aelod o un o'r corau yna cysylltwch à'r Organydd a'r Côr-feistr, Alexander Mason ar 01437 720202 neu info@stdavidscathedral.org.uk

Yn 1991 sefydlwyd Cantorion yr Eglwys Gadeiriol, côr cymysg o oedolion. O dan arweiniad Simon Pearce (Organydd Cynorthwyol) ers 1988 mae'r côr yn canu'r gosber bob pythefnos ac weithiau yn dirprwyo dros gôr yr eglwys gadeiriol yn ystod gwyliau'r hanner tymor. Bu'r côr hefyd ar wythnosau canu yn eglwysi cadeiriol Exeter a Henffordd ac yn Swydd Efrog.

Singers

Ysgoloriaethau Corawl Newydd

O fis Medi 2008 mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn cynnig Ysgoloriaethau Corawl ac yn gwahodd ceisiadau oddi wrth altos (uwchdenor/contralto), tenoriaid a baswyr.

Mae ysgoloriaeth gwerth £3000 + ffioedd, llety rhad ac am ddim a gwersi canu, cyfleoedd i ganu yng nghyngherddau'r Ŵyl, recordio a theithio, a gwaith arall ar gael.

Ceir manylion gan Alexander Mason, Swyddfa'r Deondy, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6RH

Ffôn: 01437 720202  e-bost: music@stdavidscathedral.org.uk

 

Yr Organ

Adeiladwyd organ yr eglwys gadeiriol gan Henry Willis yn 1883 ac roedd ganddo dri seinglawr a un stop ar ddeg ar hugain. Fe'i hailadeiladwyd gan Hill, Norman & Beard yn 1953 heb wneud unrhyw newidiadau sylweddol i'w donyddiaeth, ond fe'i gosodwyd mewn cas newydd gan y pensaer Alban Caroe. Yr oedd hwn yn llai na'r 'rhac-beipiau' a wnaed gan Willis gan olygu ei bod yn rhaid symud yr organ bedalau yn ei chrynswyth oddi ar y sgrîn i gwtsh newydd yn Nhransept y De. Achosodd hyn broblemau mawr o ran cydbwysedd, gyda'r pibau hyn yn rhy swnllyd yn y côr ond yn rhy dawel yng nghorff yr eglwys gadeiriol. Gwnaed gwaith pellach gan Rushworth & Dreaper yn 1980, a chan Percy Daniel & Co yn 1986 a 1989.

Datgymalwyd yr organ fis Medi 1998 ac gwnaed gwaith adfer sylweddol a'i hailadeiladu gan Harrison & Harrison o Durham rhwng 1998 a 2000. Bellach mae 'na gas newydd o bren derw wedi'i galchu yn gartref i'r organ bedalau ac mae bron â bod ar y sgrin yn ei chrynswth, ailosodwyd Côr Willis a dynnwyd yn 1980, a chydag ychydig ychwanegiadau eraill yn arddull y Tad Willis, mae gan yr organ newydd bedwar seinglawr a hanner cant a phedwar stop. Gellir gweld y fanyleb ar ei chyfer ar wefan Harrison & Harrison. 

Cysegrwyd yr offeryn newydd gan Esgob Tyddewi mewn gwasanaeth y Foreol Weddi gyda Chôr ddydd Sul 15 Hydref 2000, a chafwyd y cyngerdd cyntaf ar yr organ gan y Dr Roy Massey MBE, organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd, ddydd Mercher 15 Tachwedd 2000.

Organ

Y Clychau

The bells are housed in a detached tower which is part of the 13th century gateway known as Porth y Twr. They were hung here in the 1930s after an anonymus donor paid for the tower to be repaired and strengthened. The original bells had been hung in the tower of the cathedral but they were removed in 1730 because of the danger of the tower collapsing. The only mediaeval bell left is in the Exhibition in the Tower Gate. Perhaps some of the metal in the present fifth bell is also from the earlier ring. There are ten bells in the ring.

For most of the year, there is a handbell practice each week on Wednesday 4pm to 5pm in Porth y Twr. For further information contact the Hand Bell Director, Melanie Northall, 01437-721890

The Tower bell practice is on Friday each week, 7:45 to 9:00pm. It is occasionally cancelled due to a concert in the cathedral. Please contact Sarah Green, 01437 720526 or 07717 522761 ls.green@tiscali.co.uk or Peter Hayward, 07986 539903.

Visitors are welcome at all practices.

Sunday Service ringing time is from 10:45am until 11:10am.